Arddangosfeydd a digwyddiadau
Dewch â chwa o awyr iach i’ch digwyddiad ar y terasau awyr agored sy’n gyfagos â choetir a chyntedd sy’n edrych dros yr atriwm ysbrydoledig a syfrdanol.
Ceir plaza hyfryd â lle helaeth sy’n addas i arddangosfeydd yn yr awyr agored, rhwydweithio rhydd a sesiynau deillio.
Ceir neuadd arddangos bwrpasol gyda 4,000 m2 o le heb golofnau â charped lle gellir llwytho’n uniongyrchol, ac mae lle parcio neilltuedig i gerbydau cynhyrchu ac arddangos.
Hyn oll, ynghyd ag arlwyaeth ragorol gan ein tîm coginio pwrpasol ar y safle, i ychwanegu’r cyffyrddiadau olaf i wneud eich digwyddiad yn gyflawn.